ABOLISH THE WELSH
ASSEMBLY PARTY

Join Us
Contact for more information
Cefndir Plaid Diddymu Cynulliad Cymru
 

























Yn dilyn blynyddoedd o rwystredigaeth a phryder ynglŷn â’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru, mae plaid newydd wedi’i sefydlu i gynrychioli barn llawer o Gymry nad ydynt am gael Cynulliad o gwbl. Credwn fod y Cynulliad wedi bod yn fethiant i bobl Cymru. Felly, rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar y Cynulliad. 
 
Haen arall gostus a chwbl ddiangen o Lywodraeth yw’r Cynulliad. Yng Nghymru, mae gennym eisoes Gynghorwyr, ASau, ASEau. Sawl haen o lywodraeth sydd ei hangen ar Gymru? 
 
Mae’n anodd amcangyfrif faint mae’n ei gostio i gynnal y Cynulliad. Rydym yn amau bod ymgais fwriadol i’n rhwystro rhag cael gwybod oherwydd mae’n hynod debygol y byddai’n ffigwr gwirionedd frawychus. Erbyn hyn, rydym yn gwybod y bydd cyflogau Aelodau’r Cynulliad yn codi i £64,000 yn 2016. Bydd Aelodau Cabinet y Cynulliad yn ennill £100,000 y flwyddyn ac mae cyflog Prif Weinidog Cymru ar fin codi i ffigwr tebyg i’r hyn y mae David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol yn ei ennill, sef £140,000 y flwyddyn. Dim ond y meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru y mae Prif Weinidog Cymru’n gyfrifol amdanynt. 
 
O ystyried cyflogau’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, mae hyn yn warthus. Y llynedd, Cymru oedd yr unig ardal yn y DG i wario llai ar y GIG. Nid yn unig hynny, roedd cleifion o Gymru’n cael eu gorfodi i deithio i Loegr i gael triniaethau i achub eu bywydau nad oeddent ar gael yng Nghymru. Mae uwch-aelodau staff o’r GIG a llawer o rai eraill wedi symud i Loegr i gael triniaethau nad ydynt ar gael yng Nghymru. 
 
Mae safonau addysg yn ysgolion Cymru erbyn hyn yn llawer is o’u cymharu ag ardaloedd eraill yn y DG. 
Mae’r Cynulliad yn credu mai rhoi RHAGOR o bwerau iddynt yw’r ateb. 
Ein hateb ni yw ‘Peidiwch ag atgyfnerthu methiant”. 
 
 
Beth ydym am ei wneud i helpu
 
Felly, rydym yn gwrthwynebu trosglwyddo rhagor o bwerau o San Steffan i Fae Caerdydd. 
 
Rydym hefyd yn gwrthwynebu’r cynllun i gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 80, neu hyd yn oed i 100, fel sydd wedi’i gynnig gan y pleidiau sy’n cefnogi’r Cynulliad. Yn amlwg, byddai hyn yn cynyddu faint mae’n ei gostio i gynnal y Cynulliad yn sylweddol. 
Dim ond Cynghorwyr ac ASau oedd gennym ychydig o flynyddoedd yn ôl yn gweithio ar ran pobl Cymru. 
 
Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn credu ei bod yn hen bryd dychwelyd i’r drefn flaenorol a chael gwared ar yr haen ddiangen hon ym Mae Caerdydd. Credwn hefyd fod y 22 Awdurdod Lleol yn cynnig democratiaeth leol effeithiol, felly rydym yn gwrthwynebu cynllun Llywodraeth y Cynulliad i leihau nifer yr awdurdodau. 
Mae pobl ledled Cymru yn cefnogi ein plaid newydd. Mae’r rhain yn cynnwys y degau o filoedd o bobl sydd wedi’u siomi gan y Cynulliad ym Mae Caerdydd, yn ogystal â’r nifer sylweddol a bleidleisiodd yn erbyn ei sefydlu yn y lle cyntaf yn y refferendwm ym 1997. 
 
Bydd gennym ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad ym 2016. Dim ond UN polisi fydd gennym: ‘Diddymu’r Cynulliad’. Mae hyn yn rhesymegol oherwydd credwn mai cael 40 o ASau yn San Steffan a bod yn rhan lawn ac integredig o’r Deyrnas Gyfunol sydd orau i Gymru.